Mae disgwyl y bydd yr Ysgrifennydd Ynni’n cyhoeddi na fydd yn cefnogi codi morglawdd cynhyrchu trydan tros aber afon Hafren.

Ond, yn ôl papur yr Independent on Sunday, fe fydd yn rhoi’r hawl i godi wyth gorsaf niwclear newydd, gan gynnwys un yn yr Wylfa.

Mae’r safleoedd eisoes wedi eu nodi ond fe fyddai’n rhaid i fusnesau preifat godi’r gorsafoedd gyda’u harian eu hunain, heb sybsidi.

‘Glo glân’ hefyd

Y gred yw y bydd Chris Huhne hefyd yn cefnogi rhagor o ffermydd gwynt a gorsafoedd pŵer sy’n defnyddio ‘glo glân’.

Fe allai’r penderfyniadau achosi rhagor o ddadlau oddi mewn i’w blaid, y Democratiaid Rhyddfrydol.

Roedd Chris Huhne ei hun wedi ymgyrchu’n erbyn rhagor o ynni niwclear adeg yr Etholiad Cyffredinol.

Adroddiad am y morglawdd

Mae i fod i wneud datganiad am ddyfodol ynni yng ngwledydd Prydain yn y Senedd fory ac fe fydd yr adroddiad ar gynlluniau’r morglawdd yn cael ei gyhoeddi hefyd.

Roedd hwnnw wedi ystyried pum cynllun gwahanol, gan gynnwys morglawdd deng milltir o Gaerdydd i Weston Super Mare yn Lloegr.

Er bod darogan y gallai hwnnw roi trydan i un o bob 20 o gartrefi gwledydd Prydain, fe fyddai hefyd wedi disodli cynefinoedd tua 65,000 o adar ac effeithio ar fusnesau a physgota yn uwch ar yr afon.

Fe fydd yr adroddiad hefyd yn sôn am ddau forglawdd llai a dau forlyn ynni – yn ôl yr Independent, mae Chris Huhne yn debyg o gefnogi datblygu technolegau gwahanol fel technoleg dal carbon.

Llun: Llun arlunydd o un o’r syniadau ar gyfer morglawdd Hafren (Cyhoeddus)