Mae’r Dreigiau wedi colli eu gêm ddiweddaraf yn y Cwpan Heineken yn erbyn Toulouse ar Rodney Parade.

Roedd yr hanner cyntaf yn gystadleuaeth rhwng cicwyr y timau gyda Matthew Jones yn llwyddo gyda chic gosb.

Ond roedd David Skrela wedi llwyddo gyda phedair cic gosb a gôl adlam cyn iddo dderbyn y garden felen am drosedd. Er gwaethaf absenoldeb Skrela, fe lwyddodd Florian Fritz gyda chic gosb arall i sicrhau bod yr ymwelwyr 18-12 ar y blaen ar yr egwyl.

Y Ffrancwyr ddechreuodd yr ail hanner orau ac fe sgoriodd Toulouse deg pwynt yn y pum munud cyntaf, gyda Thierry Dustautoir yn croesi am gais cyntaf y gêm gyda Skrela yn trosi cyn i Fritz lwyddo gyda’i ail gic gosb.

Fe sgoriodd Maxime Medard ail gais i ymestyn mantais Toulouse i 12-35. Ond fe drawodd y Dreigiau‘n ôl gyda Will Harries yn sgorio cais gyntaf o’r gêm i’r rhanbarth Cymreig gyda deg munud yn weddill.

Ond Toulouse gafodd y gair olaf gyda Louis Picamoles yn sgorio trydedd gais o’r gêm i’r ymwelwyr i sicrhau buddugoliaeth 19-42.