Mae arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi rhybuddio ei phlaid i beidio â cheisio golchi eu dwylo o’r hyn y mae’r Llywodraeth Glymblaid yn ei wneud yn Llundain.

“Twyllo’n hunain fyddai meddwl y gallwn ni wneud hynny,” meddai Kirsty Williams yng nghynhadledd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn Aberhonddu heddiw.

Er ei bod yn cyfaddef y bydd hi’n fwy anodd i’w phlaid ddenu pleidleisiau protest yn etholiad y Cynulliad, addawodd y bydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol “weledigaeth glir i Gymru”.

“Fe wn fod rhai’n pryderu na fyddwn ni mewn sefyllfa i dderbyn pleidleisiau protest fel y buon ni weithiau yn y gorffennol, ond mae hynny’n rhoi cyfle inni ddod yn ddewis cadarnhaol,” meddai.

Fe ddywedodd hefyd nad fydden nhw’n cefnogi Llywodraeth Prydain waeth beth fo’r gost.

“Does ar bobl ddim eisiau ci bach ufudd, ac fe fyddwn ni’n siarad dros Gymru pan fydd llywodraeth Prydain yn cyflwyno cynlluniau cyfeiliornus fel cau swyddfa basborts Casnewydd a cholli dros 250 o swyddi.

‘Poenus’

Wrth gyfeirio at yr adolygiad cynhwysfawr ar wariant a fydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Mercher, meddai:

“Fe wn y bydd y penderfyniadau y bydd yn rhaid eu gwneud yn rhai poenus i deuluoedd ac unigolion.

“Dw i’n gwybod bod pobl yn poeni. Mae atgofion o’r 1980au yn ddwfn yng Nghymru.

“Mae Nick Clegg wedi bod yn iawn i gydnabod yr ofnau hynny, ac wrth gwrs fe fydd yn cael ei farnu yn ôl sut yr arbedion hyn yn cael eu gwneud.

“Fe allwn ni fod yn falch o’n cydweithwyr yn Llundain nid yn unig am ffrwyno polisïau mwyaf eithafol y Torïaid ond hefyd am eu llwyddiannau cadarnhaol.”

Wrth gyfeirio at benderfyniadau i adfer y cysylltiad rhwng pensiynau ac enillion, diddymu cardiau adnabod ac arbed 50,000 o bobl Cymru rhag gorfod talu treth incwm, meddai:

“Peidiwch â gadael i neb ddweud wrthoch chi nad ydyn ni’n gwneud gwahaniaeth.”

Llun: Kirsty Williams