Mae staff y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant wedi torri record byd heddiw wrth i gannoedd o weithwyr a’u teuluoedd ddod at ei gilydd i daflu ceiniogau.
“Roedd yn llwyddiant mawr gyda 1,697 o ddarnau arian yn cael eu taflu ar yr un pryd,” meddai llefarydd ar ran y Mint.
Fe wnaed yr ymgais yn ystod diwrnod agored swyddogol yn y bathdy, pryd y cafodd teuluoedd a chyfeillion y gweithwyr gyfle prin i weld y tu mewn i’r sefydliad lle mae mesurau diogelwch llym ar waith.
Darnau 50 ceiniog newydd i nodi gemau Olympaidd 2012 a gafodd eu defnyddio ar gyfer y taflu.
“Roedd yn rhaid i bawb ddychwelyd y darnau arian ar y diwedd er mwyn iddyn nhw gael eu cyfrif i wirio’r record,” meddai’r llefarydd.
“Ond ar y diwedd cafodd pawb a gymerodd ran ddarn 50c newydd mewn cas.”
Llun: Gweithwyr a theuluoedd y Bathdy’n taflu ceiniogau y prynhawn yma (David Parry/Gwifren PA)