Mae record berffaith Bangor i’r tymor yn parhau ar ôl iddynt guro’r Drenewydd 5-2 ar Ffordd Farrar heddiw.
Mae’n golygu fod tîm Nev Powell wedi ennill pob un o’u deg gêm yn Uwch Gynghrair Cymru’r tymor hwn.
Fe gafodd Bangor y dechrau perffaith i’r gêm gydag Alan Bull yn sgorio wedi naw munud.
Roedd y tîm cartref 3-0 ar y blaen ar yr egwyl ar ôl i Dave Morley lwyddo gyda chic o’r smotyn wedi hanner awr a Nicky Ward yn ychwanegu’r drydedd dri munud yn ddiweddarach.
Ond fe drawodd y Drenewydd yn ôl yn yr ail hanner ac fe sgoriodd Paul Keddle wedi awr cyn i Craig Whitfield ychwanegu ail gydag ugain munud i fynd.
Roedd brofodd brwydro’r Drenewydd fel ysgogiad i Fangor i godi eu chwarae ac fe sgoriodd Alan Bull ei ail gôl o’r gêm funud yn ddiweddarach.
Gyda chwarter awr yn weddill fe gafodd y fuddugoliaeth ei sicrhau pan sgoriodd Siôn Edwards.
Mae’r fuddugoliaeth yn ymestyn mantais Bangor ar frig tabl Uwch Gynghrair Cymru i 13 pwynt.