Mae Caerfyrddin wedi codi i chwech uchaf Uwch Gynghrair Cymru gyda buddugoliaeth haeddiannol yn erbyn y Bala ar Barc Richmond.
Roedd y gêm drosodd fel cystadleuaeth erbyn yr egwyl ar ôl i dîm Tomi Morgan sgorio pedair gôl cyn hanner amser.
Fe aeth Caerfyrddin ar y blaen wedi deng munud gyda gôl gan Tom Hicks cyn i Nick Harrhy ddyblu’r fantais wedi ugain munud.
Bedwar munud yn ddiweddarach fe sgoriodd Harrhy ei gôl o’r gêm a thrydydd Caerfyrddin cyn i Sacha Walters ychwanegu’r pedwerydd wedi 37 munud.
Fe sefydlogodd tîm Colin Caton eu chwarae yn yr ail hanner gan atal Caerfyrddin rhag sgorio eto.
Wedi ugain munud o’r ail hanner fe sgoriodd Mark Jones gôl gysur i’r ymwelwyr.
Mae tymor siomedig y Bala yn parhau ac maen nhw’n parhau i fod un safle oddi ar waelod y tabl.