Mae’r Seintiau Newydd wedi codi i’r ail safle yn Uwch Gynghrair Cymru yn dilyn buddugoliaeth ysgubol yn erbyn Hwlffordd yn Park Hall heddiw.
Fe aeth y tîm cartref ar y blaen wedi 35 munud gyda Matthew Berkeley yn sgorio cyn i Richie Parteridge ychwanegu ail ddau funud cyn yr egwyl.
Wedi dau funud o’r ail hanner fe drawodd yr ymwelwyr yn ôl gyda’r ymosodwr Jack Christopher yn haneru mantais y Seintiau Newydd.
Ond wedi 54 munud fe sgoriodd Matthew Williams drydedd gôl i dîm Mike Davies. Fe sgoriodd Williams ei ail o’r gêm wedi 65 munud.
Gyda chwarter awr yn weddill fel sgoriodd Chris Sharp bumed gôl i’r tîm cartref cyn i’r Seintiau Newydd ganfod y rhwyd am y chweched tro tair munud yn ddiweddarach.
Mae’r fuddugoliaeth golygu bod y Seintiau Newydd 11 pwynt tu ôl i Fangor ar frig tabl Uwch Gynghrair Cymru.