Mae un o wynebau cyfarwydd y noson lawen, sydd hefyd yn un o hoelion wyth Plaid Cymru, wedi cyhoeddi hunangofiant.
‘O Lwyfan i Lwyfan’ yw teitl cyfrol Peter Hughes Griffiths, sy’n adrodd hanes ei fywyd, o’i blentyndod yn Llwynbedw, i’w gyfnod yn y coleg ac yna drwy ei yrfa a’i ymddeoliad.
Yn ôl y cyhoeddwyr, Y Lolfa, mae’r hanesion yn croesi o’r llwyfan pêl-droed i’r llwyfan cyfansoddi, ac o’r llwyfan gwleidyddol i lwyfan adloniant.
Mae straeon personol ganddo am Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru, Gwynfor Evans. Peter Hughes Griffiths oedd trefnydd y gwleidydd yn ystod ymgyrchoedd llwyddiannus yr 1970au.
Mae hefyd hanes am ei gyfnod fel cadeirydd Eisteddfod yr Urdd, pan gafwyd cythrwfl gyda Thywysog Charles yn 1969. Ac mae sôn am ei gyfnod fel pêl-droediwr ac am ei gôl i glwb pêl-droed Abertawe.
Yn ogystal â hyn, mae Peter Hughes Griffiths “yn gyfansoddwr caneuon di-ri, dramodydd heb ei ail ac wrth ei fodd gyda’r ymryson,” yn ôl y cyhoeddwyr.
“Mae’r hunangofiant yma yn datgelu llawer am dalentau a gallu’r gŵr o Sir Gâr.
“Yn frith o straeon difyr, mae dawn dweud Peter yn amlwg drwy’r gyfrol gyda’i hiwmor a’i hwyl arbennig yn goron ar y cyfan.”
Yn ôl Peter Hughes Griffiths, fe aeth ati i sgrifennu’n hunangofiant gan ei fod yn teimlo yr hoffai “gofnodi llawer o bethau diddorol”, a’i fod wedi sylweddoli yn fuan pa mor “llawn, mor brysur a mor amrywiol ydy’r gwahanol lwyfannau” yn ei fywyd.
“Dwi wedi trio llenwi’r gyfrol gyda digwyddiadau difyr, digrif yn aml a dwi’n gobeithio y bydd y darllenwr wrth ei fodd yn ei ddarllen,” meddai.
Bydd ‘O Lwyfan i Lwyfan’ yn cael ei lansio nos Iau, 21 Hydref, am 7.30pm yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin.
Sulwyn Thomas fydd yn cyflwyno’r noson, ac mi fydd Y Prifardd Aled Gwyn yno, yn ogystal ag Ifan Gruffydd, Vernon Maher, Enlli Lewis, Sioned Beynon, Disgyblion Ysgol y Dderwen ac Ysgol Bro Myrddin.
Llun: Rhan o glawr ‘O Lwyfan i Lwyfan’ (Y Lolfa)