Fe fydd Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC yn gadael ei swydd y flwyddyn nesaf gyda thua £900,000 o iawndal yn ei boced.
Cael gwared ar swydd Mark Byford yw’r cam cynta’ yng nghynllun y Gorfforaeth i dorri’n ôl ar rai o’r prif swyddi hyfforddi.
Fe fydd swydd y dirprwy – a’i chyflog o £475,000 – yn diflannu ac mae disgwyl i doriadau pellach gael eu cyhoeddi yn hwyrach yn yr wythnos.
Roedd Mark Byford wedi gweithio i’r BBC ers 1979 pan ddaeth yno’n ymchwilydd yn 20 oed.
Mae’r BBC wedi gwrthod rhoi sylw ar y mater heddiw, ond mae’r Cyfarwyddwr Cyffredinol, Mark Thompson eisoes wedi rhybuddio am doriadau ar y lefel uchaf.
Ym mis Awst eleni fe ddywedodd Mark Thompson y byddai un o bob pump o swyddi uwch reolwyr y Gorfforaeth yn mynd erbyn 2011, ac fe fyddai cyflogau yn disgyn o leia’ chwarter.
Llun: Mark Byford (PA)