Mae’r gweinidog sy’n gyfrifol am dai yng Nghymru wedi cefnogi protest chwech o elusennau Cymreig yn erbyn cynlluniau’r Llywodraeth yn Llundain i dorri ar fudd-dal tai.

Yn ôl yr is-weinidog Jocelyn Davies, fe fydd y toriadau’n arwain at fwy o dlodi a phobol ddigartre’ ac yn gwthio pobol o’r ardaloedd trefol i’r ardaloedd gwledig.

Roedd hi’n cefnogi llythyr a gafodd ei anfon ddoe gan chwech o elusennau ym maes tai a thair cymdeithas sy’n cynrychioli’r busnes tai, tirfeddianwyr a thenantiaid.

Maen nhw’n dweud y bydd y toriadau’n effeithio ar bron bawb sy’n hawlio budd-dal tai yng Nghymru, yn arbennig y rhai mwya’ bregus, fel pobol gyda phroblemau iechyd meddwl a theuluoedd gyda phlant.

Fe fydd y cynlluniau’n golygu torri ar lefelau budd-dal tai lleol, sy’n helpu pobol mewn tai yn y sector preifat, ac yn gostwng taliadau i bobol sy’n byw mewn tai ‘rhy fawr’ a rhai sydd ar fudd-dal diweithdra ers mwy na blwyddyn.

‘Mwy o dlodi’

“Heb ragor o dai fforddiadwy a gyda llai o fudd-dal, lle mae pobol i fod i fynd?” meddai Jocelyn Davies, sy’n AC tros Ddwyrain De Cymru. “Mae hyn yn amlwg am arwain at fwy o dlodi a digartrefedd.”

Yn ôl yr elusennau – Shelter Cymru, Mind Cymru, CAB Cymru, Gofal, Cymorth a Tai Cymunedol Cymru – fe fydd y toriadau hefyd yn arwain at fwy o gostau tymor hir i awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a’r Llywodraeth yng Nghymru.

Llun: Tai yn y Cymoedd (360)