Fe fydd Ysgrifennydd Cymru’n cwrdd â phennaeth Swyddfa Basports Casnewydd heddiw i weld a oes modd ei hachub.
Er mai’r Swyddfa Gartref sy’n cynnig cau’r ganolfan, mae Cheryl Gillan yn dweud ei bod hi’n ymladd i geisio’i chadw.
Gan mai cynllun ymgynghorol yw hwn, meddai, mae hi’n lobïo gweinidogion eraill gan ddweud nad yw’r penderfyniad terfynol wedi’i wneud.
Gweithwyr yn ddig
Ond mae gweision sifil yng Nghasnewydd yn ddig ynglŷn â’r cynnig ac yn bwriadu cynnal rali yn y ddinas ddydd Sadwrn.
Roedd ganddyn nhw gyfarfod tanllyd mewn gwesty yng Nghasnewydd ddoe – yn ogystal â cholli tua 300 o swyddi, maen nhw’n dweud bod y cynllun yn sarhad ar Gymru gan mai dyma’r unig swyddfa ranbarthol sydd mewn peryg o gau.
Fe gafodd y mater ei godi yn Nhŷ’r Cyffredin ddoe hefyd, gydag AS Gorllewin Casnewydd, Paul Flynn, yn galw ar i weinidogion wneud datganiad – dim ond gweision sifil sydd wedi siarad hyd yn hyn, meddai, a doedd y gweinidog yn y Swyddfa Gartref ddim wedi ateb llythyr ganddo.
Fe ddywedodd bod y cynllun yn un “dinistriol ac afresymegol”.
Llun: Paul Flynn