Fe allai myfyrwyr yn Lloegr wynebu dyledion o £30,000 ar ddiwedd cwrs tair blynedd yn y brifysgol – os bydd argymhellion adroddiad newydd yn cael eu derbyn.
Mae’r Arglwydd Browne o Madingley wedi awgrymu newid mawr yn y drefn o godi ffioedd dysgu a thalu amdanyn nhw.
Er nad yw’r adroddiad yn berthnasol i Gymru, fe fyddai’n anodd iawn i brifysgolion Cymreig weithredu’n wahanol ac mae disgwyl i’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, ymateb yn swyddogol yn ddiweddarach heddiw.
Fe fyddai’r ffioedd newydd hefyd yn effeithio ar fyfyrwyr o Gymru sy’n astudio mewn prifysgolion yn Lloegr.
Gosod eu ffioedd eu hunain
Craidd y syniad newydd yw bod prifysgolion yn cael gosod eu ffioedd eu hunain ond, os byddan nhw’n mynd tros £6,000 fe fyddan nhw’n gorfod talu lefi i’r Llywodraeth er mwyn rhoi cymorth i’r myfyrwyr.
Yn ôl yr Arglwydd Browne – cyn-bennaeth cwmni olew BP – fe ddylai’r ffioedd amrywio o gwrs i gwrs gyda mwy o lefydd astudio a phrifysgolion yn cystadlu am y myfyrwyr.
Fe fyddai’r dull o dalu’r benthyciadau’n ôl hefyd yn amrywio – gyda graddedigion ar gyflogau mawr yn talu’r un llog ag y mae’r Llywodraeth yn ei dalu a’r rhai ar gyflogau bach yn talu dim llog.
Rhai’n talu’n llawn
Yn ôl yr amcangyfri’ yn yr adroddiad ei hun, fe fyddai hynny’n golygu bod y 40% mwya’ cefnog yn talu’n llawn a’r 20% isa’n talu llai nag ar hyn o bryd.
Ond fe fyddai cyfuniad o fenthyciad o £6,000 y flwyddyn i dalu am ffioedd dysgu a £3,750 o fenthyciad at gostau byw, yn golygu cyfanswm o bron £30,000 ar ddiwedd tair blynedd.
Y disgwyl yw y bydd y syniadau newydd yn achosi trafferthion mawr i’r Democratiaid Rhyddfrydol, gan fod eu Haelodau Seneddol wedi ymladd yr etholiad gydag ymgyrch yn erbyn ffioedd.
Mae rhai – fel AS Ceredigion, Mark Williams – eisoes wedi dweud y byddan nhw’n gwrthryfela.
Roedd yr Arglwydd Browne wedi penderfynu bod ‘treth raddedigion’ – dewis y Democratiaid a’r Blaid Lafur – yn “anymarferol”.
Llun: Prifysgol Caergrawnt (360)