Mae gwaith ymchwil newydd yn awsgrymu mai’r Cymoedd yn y De ac ardal Wrecsam yn y Gogledd sy’n debygol o gael eu taro galetaf gan y toriadau gwario yn y sector cyhoeddus.

Mae’r gwaith ymchwil, a gomisiynwyd gan y BBC, yn dangos fod y Gogledd a’r Gorllewin yn debygol o fod yn fwy gwydn yn wyneb y toriadau ariannol na’r De.

Blaenau Gwent yw’r mwyaf bregus

Yn ôl yr ymchwil, Sir Fynwy, Powys a Cheredigion fydd yn teimlo lleiaf o effaith o ganlyniad i’r toriadau, tra y bydd Blaenau Gwent, Merthyr Tudful, a Chaerffili yn dioddef fwyaf.

Yn y Gorllewin, bydd Gwynedd a Sir Benfro yn dod allan ohoni’n well na Sir Gaerfyrddin ac Ynys Môn, meddai’r ymchwil.

Mae’r ddwy ardal fydd yn dioddef waethaf a lleiaf, Sir Fynwy a Blaenau Gwent, y drws nesaf i’w gilydd.

Dangos gallu i ymdopi

Dywedodd y Gorfforaeth mai’r nod oedd dangos pa ardaloedd o Gymru a fyddai’n gallu ymdopi orau gyda chwymp mewn swyddi.

Roedd ymchwilwyr wedi ystyried faint o fusnesau lleol oedd ym mhob ardal, lefelau sgiliau’r boblogaeth, disgwyliad oes y trigolion, lefelau troseddau a phrisiau tai.

Fe fydd canlyniad Adolygiad Gwario Cynhwysfawr y Llywodraeth yn cael ei gyhoeddi ar 20 Hydref. Fe fydd yn datgelu faint y bydd cyllidebau bob adran, yn ogystal â chyllidebau’r llywodraethau datganoledig, yn cael eu torri.

Y rhestr llawn – pwy fydd yn diodde’?

1 – Blaenau Gwent

2 – Merthyr Tudful

3 – Caerffili

4 – Castell-nedd Port Talbot

5 – Torfaen

6 – Rhondda Cynon Taf

7 – Abertawe

8 – Wrecsam

9 – Casnewydd

10 – Pen y Bont ar Ogwr

11 – Sir Ddinbych

12 – Sir Gar

13 – Ynys Môn

14 – Conwy

15 – Caerdydd

16 – Gwynedd

17 – Sir y Fflint

18 – Sir Benfro

19 – Bro Morgannwg

20 – Ceredigion

21 – Powys

22 – Sir Fynwy