Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi cydymdeimlo â Phrif Weinidog Prydain yn dilyn marwolaeth y gweithiwr elusennol Linda Norgrove yn Afghanistan nos Wener.

Fe fu farw Linda Norgrove, o’r Alban, wrth i filwyr yr Unol Daleithiau geisio ei hachub yn Afghanistan.

Roedd Barack Obama wedi ffonio David Cameron nos Lun ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod yna rywfaint o ddryswch ynglŷn â sut y buodd hi farw.

Roedd Linda Norgrove, 36 oed, yn gweithio i gwmni Development Alternatives Inc yn nwyrain Afghanistan pan gafodd ei herwgipio gan wrthryfelwyr yn rhanbarth Kunar ar 26 Medi.

Y gred yn wreiddiol oedd bod gwrthryfelwyr y Taliban oedd yn ei dal hi’n wystl wedi ei lladd hi ond daeth i’r amlwg ddoe ei bod hi’n bosib mai grenâd gan un o filwyr yr Unol Daleithiau oedd yn gyfrifol.

Mewn datganiad dywedodd byddin yr Unol Daleithiau nad oedd adolygiad o’r fideo a chyfweliadau â’r milwyr “wedi dod i gasgliad pendant ynglŷn â beth achosodd ei marwolaeth hi”.

Mae’n debyg bod y Cadfridog, David Petraeus, sy’n arwain byddin Nato yn Afghanistan, wedi cysylltu gyda David Cameron ddydd Llun er mwyn dweud bod fideo o’r digwyddiad yn awgrymu iddi gael ei lladd gan filwyr yr Unol Daleithiau drwy gamgymeriad.

Ymchwiliad

Dydd Llun dywedodd byddin yr Unol Daleithiau y bydden nhw’n cynnal ymchwiliad i beth ddigwyddodd, gan wahodd aelodau o fyddin Prydain i gyfrannu.

“Dywedodd yr arlywydd ei fod o’n cydymdeimlo yn dilyn marwolaeth Linda Norgrove,” meddai llefarydd ar ran Rhif 10 Stryd Downing.

“Fe gytunon nhw fod y penderfyniad i geisio ei hachub hi wedi bod yn un cywir, o ystyried y peryg enbyd i fywyd Linda, a bod milwyr yr Unol Daleithiau wedi dangos dewrder mawr.

“Cytunodd y Prif Weinidog a’r Arlywydd ei fod o’n hanfodol datrys beth ddigwyddodd yn ystod yr ymgyrch i’w hachub hi.

“Roedden nhw’n edrych ymlaen at gydweithrediad agos rhwng awdurdodau Prydain a’r Unol Daleithiau yn ystod yr ymchwiliad.”

Dywedodd David Cameron y byddai’n gwneud “popeth o fewn ei allu” i sicrhau bod teulu Linda Norgrove yn gwybod sut y buodd hi farw.