Mae gan Gymru obaith am fedal aur yn y sgwâr bocsio yn Delhi ar ôl i baffiwr ieuenga’r tîm ennill lle yn y rownd derfynol.
Roedd yna dusw o fedalau efydd i’r Dreigiau hefyd – dwy yn y sgwâr ac un ar y llain bowlio.
Roedd Mcgoldrick wrth ei fodd ar ôl curo Louis Julie o Mauritius o 2-1 yn rownd gynderfynol y gystadleuaeth pwysau plu.
“Roedd hi’n ornest wirioneddol dda, yn heriol ac yn dechnegol iawn,” meddai’r llanc 19 oed o Gasnewydd.
Ennill efydd
Ond fe fu’n rhaid i’r paffiwr pwysau trwm ysgafn Jermaine Asare o Bontypridd a’r ymladdwr pwysau canol, Keiron Harding o Fedlinog setlo am efydd ar ôl colli’u gornestau hwythau.
I’r pâr Anwen Butten a Hannah Smith y daeth yr efydd yn y bowlio ac mae Gareth Morris a Robert Oxford mewn safle i ennill mwy nag un fedal yn y saethu.
Un o lwyddiannau mwy annisgwyl y dydd oedd y tîm 4 x 400 metr yn cyrraedd y rownd derfynol heb yr enillydd aur, Dai Greene. Tri rhedwr 800 a’r clwydwr Rhys Williams oedd yn y tîm.
(Llun o wefan y Gemau)