Mae mwy na thraean o ASau Cymru bellach wedi cael swyddi gyda’r Blaid Lafur yn y Senedd.
Ar ôl cyhoeddi mai Peter Hain fydd Ysgrifennydd Cymru, mae pob un ond un o’r ASau Cymreig a safodd yn yr etholiad i gabinet yr wrthblaid wedi cael swydd.
Yr eithriad yw cyn Ysgrifennydd Cymru, Alun Michael, a ddaeth ar waelod y pôl.
Ond mae yna ddyrchafiad cyflym i Owen Smith, AS newydd Pontypridd, sy’n dod yn ddirprwy i Peter Hain. Mae’n un o nifer sylweddol o ASau tro-cynta’ sydd wedi cael swyddi gan Ed Miliband.
Bydd Wayne David, AS Caerffili, yn weinidog Ewropeaidd yr wrthblaid. Roedd yn Aelod Seneddol Ewropeaidd canol De Cymru am 10 mlynedd.
Fe fydd yna swyddi hefyd ar gyfer AS Llanelli, Nia Griffith, yn weinidog busnes, AS Rhondda Chris Bryant, yn weinidog cyfiawnder.
Roedd wyth AS o Gymru wedi sefyll yn etholiad Cabinet yr Wrthblaid yr wythnos diwethaf, ond methodd pob un ohonyn nhw ennill digon o bleidleisiau i sicrhau eu lle.
‘Llais yn San Steffan ac ym Mrwsel’
Roedd Wayne David ymysg yr ymgeiswyr aflwyddiannus. Ond dan arweinyddiaeth Ysgrifennydd Tramor yr wrthblaid, Yvette Cooper, fe fydd yn cael mynd i gyfarfodydd Cabinet yr Wrthblaid.
Dywedodd Wayne David ei fod o wedi derbyn galwad gan Ed Miliband yn cynnig y swydd dydd Sadwrn a’i fod o wrth ei fodd yn derbyn.
“Chwarae teg i Ed Miliband, roedd o wedi dweud y byddai’n dod ac ASau o Gymru i mewn i Gabinet yr Wrthblaid,” meddai Wayne David.
“Mae o wedi gwneud hynny nawr ac fe fydd gan Gymru lais yn San Steffan ac ym Mrwsel.”
Ychwanegodd bod polisïau’r Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr ar Ewrop yn hollol wahanol a’i fod o’n paratoi ei hun ar gyfer dadl ffyrnig.
“Roedd Cameron wedi gochel rhag yr elfennau gwrth-Ewroperaidd yn ei blaid, ond mae yna arwyddion eu bod nhw’n mynd yn ôl i’w hen ffyrdd,” meddai Wayne David.
“Mae Cymru wedi gwneud yn dda wrth ddenu nawdd o Ewrop ac mae’n rhaid sicrhau fod hynny’n parhau. Rydw i’n credu bod dyfodol i Brydain ac i Gymru yn yr Undeb Ewropeaidd.
“Dyw hynny ddim yn golygu ein bod ni’n derbyn popeth mae Ewrop yn ei ddweud, ond mae o yn golygu bod rhaid i ni chwarae ein rhan.”
Swyddi i’r Cymry
Ymhlith y Cymry eraill sydd wedi cael lle yn cysgodi gweinidogion, mae:
Nia Griffith ac Ian Lucas – Busnes
Wayne David – Ewrop (Swyddfa Dramor)
David Hanson – Trysorlys
Kevin Brennan – Addysg
Chris Bryant – Cyfiawnder
Huw Irranca-Davies – Ynni
Mark Tami – Chwip
Llun: Owen Smith (o’i wefan)