Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn wynebu gwrthryfel tros ffioedd myfyrwyr gydag aelodau mainc gefn yn protestio yn erbyn y bwriad i’w codi.

AS Ceredigion, Mark Williams, yw un o’r rhai sy’n dweud y bydd yn gwneud safiad yn erbyn ei lywodraeth ei hun – fe ddywedodd wrth Radio Wales bod hwn yn fater o “egwyddor”.

Y disgwyl yw y bydd adroddiad gan yr Arglwydd Browne ar brifysgolion yn Lloegr yn argymell cael gwared ar y cyfyngiadau sydd ar ffioedd ar hyn o bryd.

Ond roedd holl ASau’r Democratiaid wedi arwyddo addewid yn erbyn hynny adeg yr Etholiad Cyffredinol. Er bod cytundeb y glymblaid yn rhoi’r hawl iddyn nhw atal eu pleidlais, fydd hynny ddim yn ddigon i lawer.

Ddoe, fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Busnes – Vince Cable o’r Democratiaid – ei fod wedi newid ei feddwl a throi’n erbyn y syniad o dreth ar raddedigion. Ef sy’n gyfrifol am addysg uwch yn Lloegr.

Y dyfalu diweddara’

Y dyfalu diweddara’ yw y bydd y Llywodraeth hefyd yn argymell codi llogau uwch ar fenthyciadau myfyrwyr – lefel fasnachol i bawb neu lefel uwch i’r rhai sy’n cael cyflogau uwch.

Er mai ymwneud â Lloegr y mae’r argymhellion ar ffioedd, fe fydden nhw’n gorfodi prifysgolion Cymru i ymateb – naill ai trwy fodloni ar dderbyn myfyrwyr llai cefnog neu trwy godi’r pris er mwyn cystadlu.

Mae’r Blaid Lafur yn gwrthwynebu’r bwriad gyda’r arweinydd Ed Miliband yn dweud y bydd “yn gweithio gydag unrhyw un” i geisio cael system fwy teg.

Llun: Prifysgol Rhydychen