Mae’r llong ofod gyntaf ar gyfer twristiaid, SpaceShipTwo y cwmni Virgin Galactic, wedi hedfan ar ei ben ei hun am y tro cyntaf erioed.

Cafodd y roced ei gario i uchder o 45,000 o droedfeddi gan awyren arall cyn cael ei ryddhau dros Anialwch Mojave.

Ar ôl gwahanu, llwyddodd dau beilot i hedfan SpaceShipTwo am 11 munud cyn glanio’n saff mewn maes awyr. Treuliodd y llong ofod tua 25 munud yn yr awyr.

“Roedd o’n hedfan yn hyfryd,” meddai prif weithredwr Virgin Galactic, George Whitesides.

Y nod yn y pen draw yw y bydd SpaceShipTwo, sy’n gallu cario chwech o deithwyr, yn saethu ei rocedi ar ol gwahanu oddi wrth yr awyren er mwyn gallu cyrraedd y gofod.

Yn ystod yr holl brofion blaenorol roedd y roced wedi hedfan dan aden awyren WhiteKnightTwo, a fydd yn ei gario at ymyl y gofod yn y dyfodol. Dyma’r tro cyntaf i’r roced gael ei hedfan ar ei phen ei hun.

“Mae’r prawf yma’n gam arall tuag at roi’r cyfle i unigolion ac ymchwilwyr preifat fynd i’r gofod,” meddai John Gedmark, prif weithredwr Cynghrair y Gofodwyr Masnachol.

Mae SpaceShipTwo yn seiliedig ar brototeip enillodd wobr $10 miliwn yn 2004 ar ôl llwyddo i gyrraedd y gofod a dychwelyd yn saff.

Mae tocyn i hedfan ar SpaceShipTwo yn costio $200,000. Mae o leiaf 370 o gwsmeriaid eisoes wedi talu $50 miliwn mewn blaendaliadau, meddai Virgin Galactic.

Yn y pen draw fe fydd SpaceShipTwo yn hedfan allan o dalaith New Mexico ble mae maes awyr arbennig yn cael ei adeiladu. Mae disgwyl i’r gwaith o adeiladu’r llain lanio yno ddod i ben ar 22 Hydref.