Llwyddodd Dai Greene i ennill y fedal aur gyntaf i Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad – ar seithfed diwrnod y cystadlu yn Dehli Newydd.
Enillodd y ras 400m dros y clwydi ar ôl ei rhedeg mewn 48.52 eiliad – gyda’r cyn-bencampwr Louis van Zyl o Dde Affrica’n dynn ar ei sodlau.
I dîm Cymru y daeth y fedal efydd yn yr un ras hefyd wrth i Rhys Williams ddod yn drydydd.
Medal efydd a enillodd y Cymro Christian Malcolm yn ogystal, ar ôl dod yn drydydd yn y ras 200m – y Sais Leon Baptiste a gipiodd y fedal aur yn y ras honno.
Llun: Cymry’n dathlu – Dai Greene (ar y chwith) gyda’i fedal aur a Rhys Williams gyda’i fedal efydd (Anna Gowthorpe/Gwifren PA)