Mae deg o bobl yn y ddalfa ar amheuaeth o droseddau terfygol yn dilyn cyrchoedd gan heddlu Iwerddon yn y Weriniaeth.

Mae bomiau a ffrwydron wedi cael eu cipio hefyd yn y cyrchoedd yn siroedd Louth, Waterford a Wexford..

Ymddangosodd dau ddyn o flaen Llys Troseddol Arbennig Dulyn – llys di-reithgor -0 mewn cysylltiad â’r cyrchoedd, ac mae wyth arall, gan gynnwys dynes 24 oed yn dal yn y ddalfa o dan Adran 30 o Ddeddf Troseddau yn erbyn y Wladwriaeth.

Mae Nicholas Kendall, 20, o Row Street, Wexford, wedi ei gyhuddo o feddu’n anghyfreithlon ar bistol lled-awtomatig, ffrwydron a rhan o fom.

Mae Peter Butterly, 33, o Cortown yn Dunleer, Sir Louth, wedi ei gyhuddo o fod yn aelod o’r IRA.

Galwyd ar arbenigwyr difa bomiau neithiwr a heddiw i dŷ preifat yn Keelogue, Sir Wexford i drin dau daniwr bom a ffrwydron Semtex.

Mae’r naw o ddynion – rhwng 19 a 71 o ran oed – yn y ddalfa ers cyrchoedd yn Louth a Waterford ddydd Gwener, a chafodd y ddynes 24 oed ei chymryd i’r ddalfa yn Sir Wexford ddoe.

Llun: Llys Troseddol Arbennig Dulyn (o wefan RTE)