Dylai pawb gael yr hawl i fudd-dal plant – hyd yn oed miliwnyddion, yn ôl arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband.
Mae’n feirniadol o gynllun y llywodraeth i dynnu’r budd-dal oddi wrth bobl sy’n talu treth incwm ar y raddfa uwch – sef y rhai sy’n ennill dros £44,000 y flwyddyn.
Yn ogystal â dweud bod teuluoedd ar incwm o £45,000 a fyddai’n gweld colli’r budd-dal, mae Ed Miliband yn dadlau o blaid budd-dal i bawb fel mater o egwyddor.
“Dw i blaid budd-dal i bawb oherwydd un o gonglfeini’n system yw cael budd-daliadau i bawb yn ddi-wahân – ac i fod yn onest does dim cymaint â hynny o filiwnyddion yn y wlad yma,” meddai.
“Mae ar deuluoedd sydd ar £45,000 angen budd-dal plant ac yn fy marn i mae’n ffordd i gymdeithas gydnabod costau cael plant.”
Uchafswm
Fe ddywedodd fod arno eisiau ystyried cynllun arall dadleuol y glymblaid – sef gosod uchafswm o £26,000 ar y cyfanswm o fudd-daliadau y gallai unrhyw un teulu eu derbyn.
“Mae’n ffordd fympwyol ymlaen ond fe fyddaf yn edrych arno,” meddai.
Ar y llaw arall, roedd yn llym ei feirniadaeth ar sylwadau gan yr Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Hunt na ddylai fod disgwyl i’r wladwriaeth ariannu pob plentyn mewn teuluoedd mawr.
“Dw i ddim yn meddwl fod ar bobl eisiau gwleidyddion yn dweud wrthyn nhw faint o blant y dylen nhw ei gael,” meddai.
“Wrth gwrs, gan rieni y mae’r prif gyfrifoldebau am blant ond yn lle cael Jeremy Hunt yn pregethu wrth bobl mae’n rhaid inni holi’n hunain o ddifrif ynghylch beth ydi system deg o fudd-daliadau.”
Llun: Ed Miliband (gwifren PA)