Mae’r chwaraewr canol cae David Vaughan yn dweud y bydd gan Gymru ddyfodol llewyrchus o dan Brian Flynn – os gall y chwaraewyr sicrhau swydd y rheolwr iddo’r wythnos yma.
Mae Cymru’n wynebu’r Swistir yn Basle ddydd Mawrth yng ngêm olaf cyfnod Flynn fel rheolwr dros dro, ac mae angen ennill er mwyn cadw unrhyw obaith o fynd trwodd i rowndiau terfynol Ewro 2012.
Ar ôl colli yn erbyn Bwlgaria, curo’r Swistir fydd y cyfle olaf iddo greu argraff.
Does gan Gymru ddim pwyntiau o gwbl ar ôl dwy gêm yng ngrŵp G a byddai colli eto yn rhoi diwedd ar eu hymgyrchu ar ôl dim ond mis.
Meddai David Vaughan: “Mae’n rhaid inni wneud rhywbeth ohoni ddydd Mawrth.
“Does gynnon ni ond ychydig o ddyddiau o hyfforddi gyda Flynn, ond os bydd o gwmpas yn y tymor hir, dw i’n meddwl y byddwch chi’n gweld y budd yn y perfformiadau.
“Does neb eisiau ei adael i lawr, a gobeithio y caiff y swydd waeth beth fo’r canlyniadau, os byddwn ni’n chwarae’n dda. Gobeithio y gallwn ni wneud y job iddo.
“Mae am fod yn anodd iawn mynd trwodd, ond rhaid inni geisio ennill pob gêm.”
‘Gwneud gwahaniaeth’
Yn ôl David Vaughan, mae Brian Flynn eisoes wedi gwneud gwahaniaeth er iddyn nhw golli yn erbyn Bwlgaria.
“Roedden ni’n siomedig,” meddai. “Dw i’n meddwl inni greu digon o gyfleoedd i gael pwynt o leiaf – ac roedd y perfformiad yn llawer gwell nag mae wedi bod dros yr ychydig gemau diwethaf.”
Anafiadau
Mae Cymru’n teithio i Basle heb amryw o’r chwaraewyr a gafodd eu henwi gan Flynn yn wreiddiol ar gyfer y ddwy gêm.
Fydd y sgwad 22 dyn ddim yn cynnwys Neal Eardley, Danny Gabbidon, Robert Earnshaw, Brian Stock, Joe Allen na Ched Evans – oherwydd anafiadau ac eithrio Gabbidon sydd wedi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.
Yn ymuno â’r grŵp o’r newydd y mae Darcy Blake, Adam Matthews, Neil Taylor, Andrew Crofts a Ryan Doble.
Fe fu’n rhaid gwneud rhagor o newidiadau ddoe, ar ôl i Joe Ledley a Hal Robson-Kanu dynnu’n ôl, gyda’r amddiffynwyr Chris Gunter a Sam Ricketts wedi cael eu gwahardd o gêm y Swistir.
Yn eu lle fe ddaw Rhys Wiggins, Jazz Richards a Shaun MacDonald.
Mae pryder hefyd am ffitrwydd y capten dros dro, Ashley Williams. Er ei fod yn ddigon da i deithio i Basel, mae’n dioddef o anaf yn ei droed.