Mae barnwr yn Baghdad wedi gollwng cyhuddiadau yn erbyn dau ddyn o Irac o lofruddio milwr o Gymru a phump o’i gydweithwyr dros saith mlynedd yn ôl.

Cafodd y chwe aelod o heddlu milwrol Prydain – y Capiau Cochion – eu lladd pan ymosododd tyrfa o 400 o bobl ar orsaf heddlu yn Majar al-Kabir, yn ne Irac ym mis Mehefin 2003. Yn eu plith yr oedd Tom Keys, 20 oed, o Lanuwchllyn.

Roedd Hamza Hateer a Mussa Ismael al Fartusi i fod i sefyll eu prawf yn llys troseddol canolog Baghdad heddiw, ond cafodd yr achos ei ollwng.

Fe wnaeth y prif ustus Baleagh Hamdi Hikmat ollwng y cyhuddiadau gan ddweud nad oedd digon o dystiolaeth i erlyn.

Roedd y barnwr wedi gohirio gwrandawiad y mis diwethaf er mwyn rhoi amser i dystion deithio i’r llys, ond ni ddaethpwyd ag unrhyw lygad-dystion yno.

Fe wnaeth y panel o dri barnwr holi naw o bobl – plismyn Irac yn bennaf – ond ni ddywedodd neb iddyn nhw weld y llofruddiaethau.

Roedd y Capiau Cochion wedi bod yn hyfforddi plismyn lleol pan ymosodwyd ar yr orsaf heddlu ar Fehefin 24, 2003.

Mae’r newydd yn sicr o fod yn ergyd drom i deuluoedd y chwe milwr, gan gynnwys tad Tom, sef Reg Keys sydd wedi bod yn ymgyrchu ers blynyddoedd am sicrhau cyfiawnder i’r milwyr.

Chafodd neb o’r teuluoedd fynd i wrando ar yr achos yn Irac oherwydd ofnau am ddiogelwch.

Llun: Tom Keys (MoD)