Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi dweud mai Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ac nid Llywodraeth y Cynulliad ddylai fod yn gyfrifol am y gwaith o hyrwyddo’r iaith yn y dyfodol.

Dywedodd aelodau Bwrdd yr Iaith, a fydd yn cael ei ddileu gan y Mesur Iaith newydd, y byddai’n well gosod eu holl swyddogaethau o fewn sefydliad y Comisiynydd na’u rhannu rhwng y Comisiynydd a’r Llywodraeth.

Yr hyn sy’n poeni aelodau’r Bwrdd yw y byddai’r gwaith pwysig o farchnata’r Gymraeg a hyrwyddo’r defnydd ohoni gan unigolion ac o fewn cymunedau yn mynd ar goll o fewn systemau’r Llywodraeth.

“Yn yr hinsawdd economaidd presennol, mae’n anhebygol y bydd unrhyw un o blaid sefydlu corff newydd i hyrwyddo’r iaith,” meddai Cadeirydd y Bwrdd, Meri Huws.

“Mae hyn yn ein gadael, felly, gyda dau opsiwn, sef gosod y gwaith hyrwyddo yn swyddfa’r Comisiynydd neu yn y Llywodraeth.

“O bwyso a mesur yr opsiynau hyn yn ofalus, ein cred ni yw mai gosod y gwaith yn swyddfa’r Comisiynydd fyddai’n cael yr effaith fwyaf gadarnhaol ar y Gymraeg.

”Tra ein bod yn cydnabod ei bod hi’n bosibl i wrthdaro ddigwydd rhwng yr elfennau rheoleiddio ar y naill law a’r elfennau hyrwyddo ar y llaw arall, mae profiad y Bwrdd o droedio’r llwybr hwn yn llwyddiannus ers 1993 yn argoel gref na fyddai hyn yn peri unrhyw broblemau mawr.”

‘Cam gwag’

Dywedodd Meri Huws y byddai gosod y gwaith o hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y gwasanaeth sifil yn gam gwag.

“Nid yw’r Llywodraeth yn gartref naturiol i’r gwaith o hyrwyddo iaith ar lefel gymunedol , ac ofnwn y byddai’r arbenigedd a’r ddealltwriaeth drylwyr sydd wedi ei ddatblygu dros y blynyddoedd yn cael ei golli o fewn biwrocratiaeth a gweinyddiaeth Llywodraeth Ganol.

“Ofnwn hefyd y byddai gosod y gwaith hwn o fewn y Llywodraeth yn creu pêl-droed wleidyddol o’r iaith rhwng y pleidiau.”