Casnewydd 3 – 3 Eastbourne

Fe darodd Eastbourne yn ôl tair gwaith yn erbyn deg dyn Casnewydd er mwyn cipio pwynt ym Mharc Spytty.

Fe gafodd y tîm cartref y dechrau perffaith wrth i Robbie Matthews sgorio wedi tair munud.

Ond pum munud yn ddiweddarach fe gafodd amddiffynnwr Casnewydd, Gary Warren ei anfon o’r maes am ddal ‘nôl Jamie Taylor yn y cwrt cosbi.

Fe sgoriodd Simon Weatherstone y gic o’r smotyn i unioni’r sgôr i Eastbourne. Ond roedd tîm Dean Holdsworth ‘nôl ar y blaen wedi 18 munud, gyda Jamie Collins yn sgorio.

Dwy funud wedi’r egwyl fe sgoriodd Matt Crabb i’w gwneud yn 2-2. Gyda deg munud yn weddill, fe aeth Casnewydd ar y blaen am y trydydd tro yn dilyn gôl gan Scott Rodgers.

Ond fe sgoriodd Matt Langston ym munud olaf y gêm i sicrhau gêm gyfartal i’r ymwelwyr.