Mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn, Liam Fox, wedi ymosod yn ffyrnig ar yr etifeddiaeth ariannol “erchyll” y mae’r Blaid Lafur wedi gadael ar eu hôl.
Cyhuddodd y llywodraeth a ddaeth o’u blaenau o fod yn “fyr eu golwg, hunanol, analluog, diwerth, ac aneffeithiol”.
Dywedodd bod gweinidogion wedi ymddwyn fel “siopwyr ar-lein heb unrhyw reolaeth oedd yn archebu mwy a mwy heb unrhyw syniad sut y bydden nhw’n talu am y nwyddau ar ôl iddyn nhw gyrraedd”.
Roedd polisïau economaidd y Blaid Lafur wedi “peryglu diogelwch” y wlad, meddai yng nghynhadledd y blaid Geidwadol yn Birmingham.
Ychwanegodd y byddai’n rhaid amnewid arf ataliol Trident, gan ddweud wrth aelodau’r blaid bod y llywodraeth wedi ymroi i “gynnal atalrym niwclear Prydain”.
Roedd yn siarad cyn i’r Weinyddiaeth Amddiffyn gwblhau ei thrafodaethau gyda’r Trysorlys ynglŷn â thoriadau 10-20% i gyllideb yr adran.
“Fe fydd hi’n ychydig o wythnosau eto cyn i ni gau pen y mwdwl ar yr adolygiad gwario ac yna fe fyddwn ni’n datgelu beth fydd siâp ein lluoedd arfog, o ystyried y cawlach economaidd ydan ni wedi ei etifeddu gan y Blaid Lafur,” meddai.
Dywedodd ei fod o’n canolbwyntio ar “ddiosg” rhannau o’r fyddin oedd “yno er mwyn brwydro’r Rhyfel Oer”.