Mae dau ddyn yn cael eu cwestiynu gan yr heddlu heddiw ar ôl i bier Fictoraidd hynafol gael ei ddinistrio gan dân.

Cafodd hyd at 95% o bier Hastings ei chwalu wrth i’r gwasanaethau brys geisio rheoli’r fflamau yn oriau man y bore.

Dywedodd Heddlu Sussex bod dau ddyn wedi eu harestio ac maent yn cael eu cwestiynu ynglŷn â’r tân. Mae’r pier wedi bod ar gau ers 2006.

Fe fuodd mwy nag 60 o ddiffoddwyr tân gydag wyth injan dan yn ceisio diffodd y fflamau, meddai Gwasanaeth Tân ac Achub Dwyrain Sussex.

Cafodd y gwasanaethau brys wybod am y tân ar ôl galwad gan aelod o’r cyhoedd tua 1am. Does yna ddim adroddiadau ynglŷn ag anafiadau.

Roedd ymgyrchwyr yn Hastings wedi bod yn ceisio codi arian er mwyn adfer y pier. Roedd y cyngor ar fin talu’r £3 miliwn fyddai wedi gwneud y pier yn saff i’w ddefnyddio unwaith eto.