O’n i’n meddwl bod swyddogion y wasg yr adran treftadaeth yn bihafio’n rhyfedd ddoe.

Fi: Fydd y Gweinidog yn gallu cael sgwrs glou da fi fory chi’n meddwl? Fe fydd e nôl o Delhi erbyn hynny?

Swyddog y Wasg: Yyyy, ie. Yyyyy, dyle cyfweliad fod yn iawn. Ie.

Fi: Bydd e nôl yn y swyddfa felly? Ar ôl bod yn Delhi?

SyW: Ieee, ie. Gad e gyda fi. Ddo i nôl atot ti.

Do’dd e ddim yn gallu aros i orffen yr alwad. Do’n i ddim yn deall pam ei fod e mor anghysurus am y pwnc. Dyw e ddim yn anarferol i fi ofyn am gyfweliad gyda’r Gweinidog wedi’r cyfan. Daeth datganiad wedyn gan “Weinidog Chwaraeon Plaid” yn llongyfarch Tîm Ewrop ar y Cwpan Ryder. “Ei wneud e o Delhi? Whare teg,” meddylies i.

Bore ma daeth popeth yn glir. Doedd Ffred ddim wedi bod ar gyfyl Delhi. Yr agosa ddaeth e at India oedd holi’r cwmni awyrennau pam nad oedd yr hediad 10 nos Sadwrn ar y sgriniau yn Heathrow. Roedd yr awyren wedi mynd 12 awr ynghynt. Dim rhyfedd ei fod e’n “p****d off” ys dywedodd rhywun o’r adran. Problem glerigol mae’n debyg.

Y peth yw, dylen nhw fyth fod wedi rhyddhau datganiad i’r wasg ddydd Gwener yn dweud ei fod e wedi mynd yn barod ar gyfer y papurau Sul/Llun. Gallen nhw o leia fod wedi cyfaddef y camgymeriad yn syth. Ro’n nhw dal yn gobeithio y bydden nhw’n gallu ffeindio awyren arall i fynd â fe. Wpsi.