Mae’r ferch wyth oed o Birmingham foddodd mewn pwll nofio yn Sir y Fflint wedi’i henwi.
Dyw’r heddlu ddim yn trin marwolaeth Seojin Kim fel un amheus ac maen nhw wedi rhoi gwybod i’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch gweithredol ac i’r crwner.
Aethpwyd a Seojin Kim i’r ysbyty o wersyll carafanau Talacre Beach yn Sir y Fflint dydd Sadwrn ond fe fu farw’n ddiweddarach.
Mae llyfryn y parc yn dweud y dylai unrhyw blentyn wyth mlwydd oed neu iau sy’n mynd i mewn i’r pwll fod gydag oedolyn cyfrifol sydd dros 16 oed ac sy’n gallu nofio.