Mae ffrwydrad wedi difrodi un arall o danceri olew Nato oedd yn aros i groesi’r ffin o Bacistan i Afghanistan.
Ffrwydrodd y bom o dan y tancer, oedd wedi parcio ynghyd â dros 100 o rai eraill oedd yn aros i groesi’r ffin yn rhanbarth Khyber.
Ni gafodd unrhyw un ei anafu, ond fe symudwyd y tanceri eraill rhag ofn i’r tân ledu.
Does dim cadarnhad ynglŷn â phwy oedd yn gyfrifol, ond mae’r Taliban ym Mhacistan wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiadau eraill.
Torkham
Dyma’r pumed ymosodiad o’i fath ers i awdurdodau Pacistan gau croesfan prysur rhwng y wlad ac Afghanistan.
Croesfan Torkham oedd yn cael ei ddefnyddio gan y rhan fwyaf o’r lluoedd rhyngwladol sy’n ymladd y Taliban.
Caewyd y ffîn gan Bacistan er mwyn cyfleu eu anhapusrwydd yn dilyn cyfres o ymosodiadau gan hofrenyddion lluoedd Nato ar y Taliban ar diriogaeth Pacistan.
Mae’n debyg bod un ymosodiad wedi lladd tri o filwyr y wlad.
Mae disgwyl i’r groesfan ail agor o fewn rhai dyddiaau. Er gwaetha’r tyndra rhwng Pacistan a’r lluoedd rhyngwladol – â’r Unol Daleithiau yn enwedig – mae’r ddwy ochor yn dibynnu ar gefnogaeth ei gilydd.
Mae’r Unol Daleithiau angen cymorth Pacistan i erlyn y Taliban sy’n croesi’r ffîn i ymosod ar y lluoedd rhyngwladol, ac mae Nato angen gallu croesi’r ffîn er mwyn cario nwyddau i’w lluoedd arfog.
Mae Pacistan ar y llaw arall yn derbyn biliynau o ddoleri sy’n gymorth i gynnal ei heconomi.
(Llun: PA)