Mae’r glaw unwaith eto wedi effeithio’n ddifrifiol ar y chwarae yn y Cwpan Ryder yng Nghasnewydd gan orfodi’r gystadleuaeth i barhau am ddiwrnod arall.

Eisoes, fe benderfynwyd gohirio dechrau’r chwarae heddiw tan o leia’ ganol dydd ac mae’r trefnwyr yn apelio ar i gefnogwyr gadw draw tan hynny.

Gyda llawer o’r chwarae wedi ei golli ddydd Gwener hefyd, does dim dewis bellach ond parhau i chwarae fory – y tro cynta’ yn hanes y gystadleuaeth iddi orfod cael ei hymestyn.

Mae swyddogion tywydd yn rhybuddio y bydd yna law mawr am aran helaeth o’r dydd tros rannau o Gymru a Lloegr, gan gynnwys y De-ddwyrain.

Montgomerie’n rhybuddio

Neithiwr, fe rybuddiodd capten Ewrop, Colin Montgomerie, y byddai unrhyw oedi pellach yn golygu chwarae ddydd Llun.

“Mae arna’ i ofn y galla’ i reoli rhai pethau, ond alla’ i ddim rheoli’r tywydd,” meddai. “Fydden ni’n hoffi gorffen heddiw ac ryden ni’n gweddïo na fyddwn ni’n colli rhagor o amser.”

Y bwriad oedd ail-ddechrau chwarae ychydig cyn wyth o’r gloch fore heddiw, gyda’r Americaniaid ar y blaen o 6-4 ond gydag Ewrop yn gwneud yn dda yn y rownd ddiweddara’.

Llun: Y dyrfa’n aros yn ystod y glaw ddydd Gwener (David Davies – Gwifren PA)