Roedd Dave Jones yn llawn clod ar gyfer ei ymosodwr Craig Bellamy heddiw, gan ddweud bod ei gôl yn erbyn Barnsley yn ystod eu buddugoliaeth 2-0 dros Barnsley o’r “ansawdd uchaf”.
Mae Bellamy wedi methu pum gem yn olynol ar ôl dioddef anaf i’w ben-glin ond yn ôl rheolwr y tîm, roedd Caerdydd “wedi gosod targed ar gyfer Bellamy”.
“Ar ôl 65 munud, roedd ein physio eisiau tynnu Bellamy oddi ar y cae, ond roedd Craig eisiau parhau,” meddai.
“Roedd hynny wedi gwneud fy mhenderfyniad i’n lot haws. Mae’n rhaid iddo gadw at raglen ac mae o’n teimlo yn gyfforddus gyda hynny.”
Roedd Barnsley wedi pwyso am gôl hwyr a dywedodd Dave Jones y byddai colli ym munudau olaf y gêm wedi bod yn “siomedig” a bod Caerdydd wedi gorfod “brwydro” am fuddugoliaeth yn yr ail hanner.