Barnsley 1 – 2 Caerdydd
Sgoriodd Craig Bellamy gôl yn ei gêm gyntaf yn ôl o’i anaf er mwyn sicrhau buddugoliaeth 1 – 2 i Gaerdydd oddi cartref yn erbyn Barnsley.
Fe aeth Caerdydd ar y blaen ychydig cyn hanner amser diolch i gôl yr ymosodwr, oedd yn chwarae ei gem gyntaf ar ôl methu pump yn olynol oherwydd anaf i’w ben glin.
Dyma ei ail gôl o’r tymor a’r unig eiliad o gyffro mewn hanner cyntaf digon diflas. Ond daeth y gêm yn fyw ar ôl y toriad wrth i Jason Shackell daro nôl dros Barnsley ar ôl 63 munud.
Bu’n rhaid i gôl-geidwad Barnsley safio cic gosb gan Peter Whittingham cyn i Seyi Olofinjana sgorio’r gôl fuddugol dros Gaerdydd.
Cafodd chwaraewr canol cae Caerdydd, Darcy Blake, ail gerdyn melyn ar ôl 83 munud am dacl cas, ac ar ôl 88 munud bu’n rhaid i gôl-geidwad Caerdydd safio pêl dda gan asgellwr Barnsley Adam Hammill. Ond doedd y pwysau ddim yn ddigon a daliodd Caerdydd ymlaen am y fuddugoliaeth.