Bydd dathliadau ar gyfer Diwrnod T Llew Jones yn dechrau’n gynnar mewn un pentref yng Ngheredigion eleni.

Y dyddiad swyddogol yw 11 Hydref, ond bydd Pentre Bach yn cynnal gweithgareddau ar yr wythfed.

Bydd disgyblion o Ysgol Ffwrnais, ger Llanelli, yn cael y cyfle i gwrdd â Sali Mali, a llyfrgellydd y pentref, Siani Flewog, yno.

Byddant hefyd yn cael y cyfle i ymweld ag atyniad newydd yn y pentref, sef cerbyd llyfrgell symudol.


11 Hydref

Bydd Diwrnod T Llew ar ei ben-blwydd, 11 Hydref, ac mi fydd digwyddiadau’n cael eu cynnal mewn ysgolion, llyfrgelloedd a siopau llyfrau ar draws Cymru.

Bydd ei feibion, Emyr ac Iolo, yn ymweld â Ysgol Coed-y-bryn, Ceredigion, lle bu T Llew Jones yn brifathro.

Yno hefyd fydd Gweirydd ap Gwyndaf, wnaeth actio rhan Tim Boswel, y sipsi ifanc, yn y ffilm 1993, Tân ar y Comin, oedd wedi selio ar lyfr T Llew Jones.

Bydd Carol Byrne Jones, y cynhyrchydd, hefyd yn ymweld â’r ysgol i sôn am y broses o greu’r ffilm.

Y Cyngor Llyfrau

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wrthi’n annog ysgolion, llyfrgelloedd a llyfrwerthwyr i ymuno yn y dathliadau ar y diwrnod trwy gymryd rhan mewn pob math o weithgareddau.

Maen nhw’n argymell darllen llyfrau T Llew Jones, gwerthfawrogi ei farddoniaeth, cynnal sesiynau ysgrifennu creadigol, creu gwaith celf a murluniau, ac annog plant i gael hwyl drwy wisgo fel rhai o’u hoff gymeriadau o’i lyfrau.

Mae’r Cyngor Llyfrau hefyd wedi trefnu cystadlaethau i blant, sy’n cynnwys llunio stori – naill ai ‘Diwrnod ym Mywyd Môr-leidr’ neu ‘Diwrnod ym Mywyd Lleidr Pen-ffordd’ – a llunio cerdd am eu hoff fis o’r flwyddyn.

“Mae llawer o edrych ymlaen at ddathliadau’r diwrnod,” meddai Pennaeth Adran Llyfrau Plant y Cyngor Llyfrau, Menna Lloyd Williams.

“Ac mae’r gweithgareddau fydd yn digwydd ym mhob cwr o Gymru yn dangos y brwdfrydedd heintus sydd yn ein hysgolion, yn ogystal â gwir awydd i goffáu un o fawrion llenyddiaeth plant.

“Yn sicr, byddai T Llew wedi bod wrth ei fodd.”

T Llew Jones

Bu T Llew Jones farw ym mis Ionawr 2009.

Treuliodd ei yrfa yn athro a phrifathro ysgol gynradd, ond roedd yn awdur plant, a bardd llwyddiannus yn ogystal.

Enillodd wobr Tir na n-Og ddwywaith, yn 1976 (sef blwyddyn gyntaf y wobr) ac yna yn 1990. Derbyniodd Dlws Mary Vaughan Jones yn 1991 am ei gyfraniad arbennig i faes llenyddiaeth plant yng Nghymru.