Fe fydd angen parhau i fuddsoddi arian i sicrhau bod y diddordeb mewn golff yn parhau ar ôl cystadleuaeth y Cwpan Ryder yng Nghasnewydd.
Dyna ddywed y sylwebydd chwaraeon John Evans wrth ymuno â chyfryngau’r byd yng ngwesty’r Celtic Manor ddechrau’r wythnos.
Mae’r trefnwyr a Syr Terry Matthews eisoes wedi pwysleisio bod golff i elwa o bresenoldeb y gystadleuaeth yng Nghymru.
Mae yna drefniadau yn eu lle i annog mwy o bobol i chwarae golff a chynnal sesiynau hyfforddi cyson.
“Does dim dwywaith bod y diddordeb mewn golff yng Nghymru wedi cynyddu ddengwaith a mwy dw i’n siŵr ers cyhoeddi bod y Cwpan Ryder yn dod yma.
“Does dim rheswm i feddwl na fydd yn parhau i elwa wedi i’r cystadlu ddod i ben.” meddai John Evans.
“Ond mae gen i un gofid, sef a fydd y nawdd ar gael ar gyfer cefnogi’r datblygiad a’r cynnydd hwnnw? A fydd y Cynulliad yn gallu buddsoddi? Mae Syr Terry Matthews wedi buddsoddi arian aruthrol yn barod, ond gallwn ni ddim dibynnu ar un dyn am byth.”
Cwrs y Cwpan Ryder
Roedd John Evans ymhlith y cyntaf i gerdded o amgylch cwrs y Twrnamaint gyda’r chwaraewyr.
“Mae ’na duedd i ddefnyddio’r gair anhygoel lot gormod, ond mae’r hyn sy’n digwydd yng Nghasnewydd yr wythnos hon yn gwbl anhygoel!” meddai am y digwyddiad chwaraeon mwya’ erioed i gael ei gynnal yng Nghymru.
“Pan wnaeth Syr Terry Matthews grybwyll rhyw 12 mlynedd yn ôl ei fod am ddod a’r Cwpan Ryder i Gymru, roedd pawb yn ddi-wahan yn credu ei fod yn wallgo. Mae e wedi gwario rhyw £39 miliwn o’i arian ei hun i wneud i hynny ddigwydd ac mae wedi llwyddo.”
Darllenwch weddill y stori yng Nghylchgrawn Golwg, 30 Medi