Mae 16 person wedi marw mewn tirlithriad ym Mecsico wrth i law trwm ddisgyn mewn sawl rhan o’r wlad.

Bu farw’r bobl yn nhalaith Chipas ar ôl i’r mwd gladdu eu cartrefi.

Mae ymdrech i achub 11 person coll yn dilyn tirlithriad mewn tref arall ym Mecsico wedi ail ddechrau heddiw.

Roedd yna banig mawr yn wreiddiol ar ôl i awdurdodau lleol ddweud y gallai cannoedd o bobl fod wedi marw yn y tirlithriad yn Santa Maria de Tlahuitoltepec yn nhalaith Oaxaca.

Ond pan gyrhaeddodd achubwyr dim ond 11 person oedd ar goll, a does dim un marwolaeth wedi cael ei gadarnhau yn y dalaith hwnnw hyn yn hyn.

Roedd y tir ansefydlog wedi gorfodi heddweision a diffoddwyr tân i roi’r gorau i’w hymdrechion achub am roi oriau.

Yn dilyn y tirlithriad roedd llywodraethwr Oaxaca, Ulises Ruiz, wedi dweud wrth orsaf deledu genedlaethol ei fod wedi derbyn adroddiadau bod 300 o gartrefi wedi cael eu gorchuddio gyda hyd at fil o bobl ynddynt.

Ond ar ôl i achubwyr gyrraedd yr ardal, darganfyddwyd mai dim ond deg tŷ oedd wedi cael eu claddu yn y mwd.

Mae glaw trwm wedi taro sawl ardal ym Mecsico ac fe gafodd 13 eu brifo ar ôl tirlithriad yn Amatan.