Bydd y canolwr Casey Laulala yn dychwelyd i’r Gleision er mwyn wynebu Connacht yn Stadiwm Dinas Caerdydd heno.

Mae’r canolwr wedi gwella o anaf ac yn cymryd ei le yn y canol gyda Dafydd Hewitt.

Fe fydd Gareth Cooper yn cychwyn ei gêm gyntaf o’r tymor yn safle’r mewnwr ar ôl i Richie Rees fethu â gwella o anaf i’w goes.

Mae Xavier Rush yn gapten ar y tîm ac mae’r bachwr, Rhys Williams yn ennill ei le yn y rheng flaen wrth i T Rhys Thomas orffwys.

Fe fydd John Yapp yn dechrau yn safle’r prop penrhydd ac fe fydd yn parhau i chwarae yn y safle am y tair wythnos nesaf wrth i gemau’r Cwpan Heineken agosáu.

Mae Yapp yn gobeithio newid o fod yn brop pen tynn ond does dim digon o brofiad ganddo yn y safle ar gyfer cystadleuaeth Ewrop.

Fe fydd Gethin Jenkins ar y fainc heno ar ôl dioddef o’r ffliw yn ystod yr wythnos. Ond mae Martyn Williams, Maama Molitika a Lloyd Williams allan gydag anafiadau.

Carfan y Gleision

15 Ben Blair 14 Leigh Halfpenny 13 Casey Laulala 12 Dafydd Hewitt 11 Chris Czekaj 10 Dan Parks 9 Gareth Cooper

1 John Yapp2 Rhys Williams 3 Tafa’ao Filise 4 Bradley Davies 5 Deiniol Jones 6 Michael Paterson 7 Sam Warburton 8 Xavier Rush

Eilyddion- 16 Kristian Dacey 17 Gethin Jenkins 18 Scott Andrews 19 Paul Tito 20 Andries Pretorius 21 Kristian Baller 22 Ceri Sweeney 23 Tom Shanklin

Carfan Connacht

15 Gavin Duff 14 Troy Nathan 13 Niva Ta’auso 12 Keith Matthews 11 Fionn Carr 10 Ian Keatley 9 Frank Murphy.

1 Brett Wilkinson 2 Adrian Flavin 3 Jamie Hagan 4 Michael Swift 5 Andrew Browne 6 Michael McCarthy 7 Ray Ofisa 8 Mike McComish.

Eilyddion 16 Dermot Murphy 17 Ronan Loughney 18 Rob Sweeney 19 Bernie Upton 20 Johnny O’Connor 21 Cillian Willis 22 Miah Nikora 23 Darragh Fanning