Mae yna adroddiadau y bydd rhai o newyddiadurwyr blaenllaw y BBC yn penderfynu anwybyddu’r streiciau yr wythnos nesaf er mwyn adrodd ar gynnwys cynhadledd y Ceidwadwyr.

Yn ôl papur newydd y Daily Mail mae’r newyddiadurwyr yn ystyried anwybyddu’r streic ar 5 a 6 Hydref, sydd wedi ei hamseru er mwyn cyd fynd gyda’r gynhadledd.

Fe fydd yna ail streic ar 19 a 20 Hydref, y dyddiau y mae disgwyl i’r Canghellor George Osborne ddatgelu manylion y toriadau i wasanaethau cyhoeddus yn ei Adolygiadau Gwario Gynhwysfawr.

Mae hynny wedi arwain at honiadau fod y streic wedi ei thargedu er mwyn gwneud niwed i’r Blaid Geidwadol a bod hyn yn adlewyrchu tuedd adain chwith o fewn y gorfforaeth.

Daeth i’r amlwg heddiw bod y streicwyr hefyd yn gobeithio picedu swyddfeydd y Cynulliad ym Mae Caerdydd, ac y bydden nhw’n gofyn wrth Aelodau Cynulliad i beidio â chroesi’r piced.

Yn ôl papur newydd y Western Mail mae swyddogion y Cynulliad yn anhapus gyda’r syniad, am nad oes ganddyn nhw unrhyw swyddogaeth wrth ariannu’r BBC.

Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr, sy’n trefnu’r streiciau ar y cyd â’r undeb darlledu Bectu, eu bod nhw eisiau “presenoldeb mawr yn y Cynulliad”.

“Fe fydd Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr a Bectu hefyd yn cysylltu gyda ACau o flaen llaw gan ofyn iddyn nhw beidio â chroesi’r piced,” meddai.

Fe fydden nhw’n picedu adeilad y Cynulliad oherwydd fod yna swyddfa BBC yno, medden nhw.

Cyhoeddodd y BBC ym mis Mehefin eu bod nhw’n mynd i newid eu cynllun pensiwn er mwyn torri diffyg ariannol o tua £2bn.

Yn gynharach y mis yma cyhoeddodd Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr a Bectu bod 90% o’u haelodau o fewn staff y BBC wedi pleidleisio i streicio.