Mae dau ddyn o ardal Glannau Merswy wedi eu dedfrydu i 20 mlynedd yn y carchar am ddwyn dros £60,000 yng Nghaerdydd a Casnewydd yn 2009.

Cafodd Lee Donakey, 34 oed, o Toxteth ei ddedfrydu i ddeg mlynedd yn y carchar am gynllwynio i ladrata yn Llys y Goron Caerdydd heddiw.

Ar 23 Gorffennaf cafodd ei gydymaith, Ryan Lamb (dde), 30, o Toxteth, ei ddedfrydu i 10 mlynedd yn y carchar am ei ran mewn cynllwyn i ladrata o Gaerdydd a Chasnewydd.

Roedd Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent wedi cydweithio dros gyfnod o 9 mis er mwyn ymchwilio i’r ddau, fel rhan o weithred a elwir ‘Operation Synergy’.

“Roedd hwn yn ymchwiliad hir a chymhleth i giang o droseddwyr trefnus o Lerpwl fu’n dwyn o gerbydau oedd yn cludo arian o le i le yng Nghaerdydd a Casnewydd,” meddai’r Uwch Swyddog Ymchwiliadol Joe Sweeney o Heddlu De Cymru.

“Roedd y dioddefwyr wedi dangos dewrder wrth orfod ymdopi gyda’r troseddwyr peryglus yma oedd â masgiau dros eu gwynebau.

“Roedd Donakey a Lamb wedi bygwth gardiaid diogelwch diniwed oedd yn ceisio cyflawni eu gwaith.

“Dyma’r ail ymchwiliad i gangiau o Lerpwl sydd wedi mynd ati’n fwriadol i dargedu ardaloedd Caerdydd a Chasnewydd.”