Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi galw am newid cwestiwn y refferendwm ar system bleidleisio’r Etholiad Cyffredinol ar ôl dweud ei fod o’n mynd i ddrysu’r cyhoedd.

Dywedodd y comisiwn bod pobol “gyda lefelau llythrennedd neu addysg is” yn dweud bod y cwestiwn yn “waith caled” neu’n annealladwy.

“Mae strwythur y cwestiwn, ei hyd, a rhywfaint o’r iaith a ddefnyddiwyd, yn ei wneud o’n anoddach i’w ddarllen nag sydd rhaid,” meddai’r comisiwn.

Ar hyn o bryd y cwestiwn fydd: “A ydych chi eisiau i’r Deyrnas Unedig fabwysiadu system ‘pleidlais amgen’ yn hytrach na’r system ‘cyntaf i’r felin’ bresennol ar gyfer ethol Aelodau Seneddol i Dŷ’r Cyffredin?”

Mae’r comisiwn yn awgrymu ei newid i: “Ar hyn o bryd mae Prydain yn defnyddio system ‘cyntaf i’r felin’ ar gyfer ethol Aelodau Seneddol i Dŷ’r Cyffredin. A ddylai system ‘pleidlais amgen’ gael ei defnyddio yn lle?”

Tair pleidlais i Gymro

Roedd y Comisiwn hefyd yn dweud nad oedd yna lawer o ymwybyddiaeth ynglŷn â sut oedd y system bresennol yn gweithio a llai byth ynglŷn â sut oedd y system bleidlais amgen yn gweithio.

Ond roedd yn ffyddiog y byddai ymgyrchoedd o blaid ac yn erbyn diwygio’r system bleidleisio yn rhoi mwy o wybodaeth i bobol wrth i ddyddiau’r refferendwm agosáu.

Mae disgwyl i’r bleidlais gyhoeddus ar newid o’r system gyntaf i’r felin i’r system pleidlais amgen gael ei chynnal ar 5 Mai’r flwyddyn nesaf.

Dyna fydd yr ail refferendwm o fewn tua mis i bobol Cymru, a fydd yn pleidleisio ar 3 Mawrth ynglŷn ag os ydyn nhw eisiau mwy o bwerau i’r Cynulliad.

Mae yna anghytundeb ar feinciau cefn y Ceidwadwyr ynglŷn â dyddiad y refferendwm ar y system bleidleisio, am ei fod o’n cyd fynd gyda dyddiad etholiadau Cynulliad Cymru a Senedd yr Alban.

Maen nhw’n pryderu y bydd hynny’n drysu pleidleiswyr ac yn newid y canlyniad.