Wrth i aelodau o dîm Gemau Gymanwlad Cymru ymgartrefu ym mhentref y cystadleuwyr yn Delhi, mae rhai ohonynt wedi bod yn sôn am eu profiadau hyd yn hyn.
Mae 112 aelod o’r 170 sydd yn y tîm bellach wedi cyrraedd India ac fe fydd seremoni agoriadol y gemau dydd Sul.
Mae’r tîm yn aros yn eu bloc o fflatiau eu hunain o fewn y pentref sydd wedi cael ei alw’n ‘Ffau’r Dreigiau’ gan y Cymry.
“R’y ni’n awyddus iawn i adeiladu ar yr ysbryd oedd o fewn y tîm ym Melbourne,” meddai rheolwr tîm Cymru, Jon Morgan.
“R’y ni wedi hongian Draig enfawr i lawr ochr ein bloc o fflatiau. Dyma’r peth cyntaf mae’r athletwyr yn ei weld wrth iddynt ddod i mewn i’r pentref ac mae o yno i’w hysbrydoli nhw ac i’w hatgoffa bod pawb adref yn falch iawn ohonynt.
“R’y ni wedi ceisio creu cartref oddi cartref ac mae’r llety yn gyfforddus iawn.”
‘Cyfleusterau gwych’
Fe gyrhaeddodd aelodau’r tîm badminton ddoe ac fe ddywedodd Caroline Harvey ei bod hi wedi cael sioc ar yr ochr orau hyd yn hyn.
“Mae’r cyfleusterau’n wych. Mae’r ystafelloedd yn dda ac mae’r bwyd yn ardderchog. Mae’r cyfleusterau ymarfer yn dda hefyd.”
Mae tîm badminton Cymru yn yr un grŵp ag India yn y gystadleuaeth ac mae Caroline Harvey yn credu y bydd hynny’n ychwanegu at y profiad.
“Fe ddylai fod yn wych, fe fydd yr awyrgylch yn y stadiwm yn anhygoel.”
‘Awyrgylch ardderchog’
Dywedodd y chwaraewraig hoci, Emma Batten, ei bod hi’n cystadlu yn ei gemau cyntaf ac yn mwynhau’r profiad.
“Mae’r awyrgylch o amgylch y pentref yn ardderchog ac mae’r pentref ei hun yn dda iawn.”
Mae chwaraewraig hoci arall, Leah Wilkinson wedi dweud ei bod yn edrych ymlaen at chwarae yn y stadiwm genedlaethol.
“Mae’r stadiwm yn dal 19,000 ac mae yna gymaint o ystafelloedd newid ac ystafelloedd fyw i’r athletwyr. Mae’r cae yn dda iawn ac fe fydd yn galluogi i ni chwarae’n gyflym,” meddai.
‘Methu aros i gystadlu’
Mae’r gymnastwr o’r Barri, Clinton Purnell yn hapus iawn gyda’r arena gymnasteg fydd yn cynnal ei gystadleuaeth ddydd Llun nesaf.
“Dyma’r stadiwm mwyaf ydw i erioed wedi cystadlu ynddo. Rydw i ychydig yn nerfus ar hyn o bryd oherwydd maint y gystadleuaeth! Ond r’yn ni’n ymarfer yn galed ac rwy’n methu aros tan ddydd Llun.”
‘Medal yw’r nod’
Mae’r saethwraig o Gwmbrân, Helen Warnes wedi bod yn Delhi ers dydd Sul diwethaf ac mae’n targedu mynd getre gyda medal.
“Gemau’r Gymanwlad yw’r lefel uchaf y gallwch chi ei chyrraedd wrth gynrychioli Cymru, ac fe fyddai gwneud yn dda yma’n gamp fawr,” meddai.
“Rwy’ ychydig yn nerfus ond pan fyddai’n dechrau cystadlu rwy’n anghofio am hynny ac yn canolbwyntio ar yr hyn sydd angen ei wneud. Y nod yw ennill medal.”