Mae afiechyd wedi lladd hanner cnwd pabi Afghanistan eleni, yn ôl asiantaeth cyffuriau’r Cenhedloedd Unedig.
Dywedodd yr asiantaeth bod Afghanistan wedi cynhyrchu 3,600 tunnell o opiwm yn 2010, cwymp o 48% ar 6,900 yn 2009. Dyma’r ffigwr isaf ers 2003.
Opiwm yw’r prif gynhwysyn mewn heroin. Mae tua 90% o opiwm y byd yn dod yn wreiddiol o Afghanistan.
Mae’n debyg bod yr afiechyd wedi taro Helmand a Kandahar yn arbennig o galed. Mae’r ddau ranbarth ymysg ardaloedd mwyaf ffrwythlon Afghanistan ar gyfer tyfu opiwm, ac yn ganolbwynt i wrthryfel y Taliban.
“Mae’n newyddion da ond dydyn ni ddim yn codi ein gobeithion yn ormodol,” meddai cyfarwyddwr yr asiantaeth gyffuriau, Yury Fedotov.
“Mae yna gysylltiad clir rhwng yr opiwm a diffyg diogelwch yn Afghanistan.”
Mae pris opiwm wedi treblu dros y flwyddyn ddiwethaf, o £41 y kilogram yn 2008 i £107 erbyn hyn. Mae’r Cenhedloedd Unedig yn pryderu y bydd hynny’n annog mwy o ffermwyr y wlad i droi at dyfu opiwm.
“Tra bod yna ofyn am opiwm fe fydd yna bob tro ffermwr arall i gymryd lle pob un ydan ni’n ei annog i roi’r gorau i dyfu’r cyffur,” meddai Yury Fedotov.