Ar drothwy cynhadledd y Blaid Geidwadol mae eu harweinydd yng Nghymru wedi dweud ei fod o’n rhagweld ymateb gwael i’r toriadau sydd ar y gorwel.

Mae hefyd yn cydnabod y bydd hi’n anodd i’w blaid wrth ymladd etholiad y Cynulliad ym mis Mai’r flwyddyn nesaf ac nad yw ei sedd ei hun yn hollol ddiogel.

Ond mae’n mynnu mai gwneud y peth cywir i’r wlad yw’r peth pwysig yn hytrach na phoblogrwydd y Llywodraeth yn y tymor byr.

“Cyhyd â’n bod ni’n deg, rwy’n hapus,” meddai Nick Bourne wrth Golwg. “Ydw, rwy’n meddwl y gallwn ni gael ymateb gwael ond os ydyn ni’n gwneud y peth iawn, dyna’r peth pwysig.

“Dyw’r cyhoedd ddim yn dwp. R’yn ni fel pe bai ni’n meddwl nad yw’r cyhoedd yn deall beth yw’r sefyllfa. Ond fe bleidleision nhw i gicio Llafur allan.”

Clymbleidio

Dywedodd Nick Bourne ei fod yn ystyried clymbleidio yng Nghymru yn dilyn etholiad y Cynulliad.

“Mae gen i uchelgais anferthol i Gymru a’r peth y bydden i’n hoffi gweld mewn Llywodraeth o gyfuniad o bleidiau … ydy set o bolisïau fyddai’n delifro dros Gymru.

“A oes unrhyw wahaniaeth rhwng y Llywodraeth sydd ganddon ni nawr gyda Phlaid a phan oedd Llafur yn rhedeg pethau ar eu pen eu hunain? I fod yn onest – na.

“Mae uniad rhwng y Ceidwadwyr a Llafur yn anhebygol… Ond mae pob posibilrwydd arall yn bodoli mae’n debyg.”

Darllenwch weddill y stori yng Nghylchgrawn Golwg, 30 Medi