Mae dynes yn ei 40au wedi ei harestio ar ddrwgdybiaeth o geisio llofruddio ar ôl i ddyn gael ei drywanu yng Nghaerdydd, meddai’r heddlu heddiw.

Galwyd swyddogion arfog i Stryd Blaenclydach yn ardal Trelluest, Caerdydd am 5.25pm heddiw, meddai Heddlu De Cymru.

Mae’r dioddefwr 50 oed mewn cyflwr sefydlog yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

“Mae ymchwiliad yn mynd rhagddo ac fe ddylai llygaid dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101 neu Daclo’r Tacle ar 0800 555 111,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.