Dywedodd David Miliband nad oedd o ‘wedi marw’ heddiw wrth gyhoeddi y byddai’n parhau i gefnogi a chyfrannu at y Blaid Lafur o’r meiciau cefn.

Cadarnhaodd pnawn ma na fyddai’n ymuno gyda chabinet yr wrthblaid, tri diwrnod ar ôl i’w frawd Ed Miliband gipio’r cyfle i arwain y blaid oddi arno.

Ond dywedodd y byddai’n parhau i fod yn Aelod Seneddol ar y meinciau cefn ac yn dal i wasanaethau’r Blaid Lafur orau allai.

Ymatebodd ei frawd Ed Miliband gan ddweud y byddai’n cadw’r drws ar agor i’w frawd mawr ac y byddai’n rhydd i ail ymuno â’r cabinet os oedd o’n newid ei feddwl yn y dyfodol.

Dywedodd David Miliband ei fod wedi penderfynu camu ôl er mwyn caniatáu i’w frawd benderfynu ar gyfeiriad y blaid yn y dyfodol heb ymyrraeth ganddo ef.

Ychwanegodd y byddai’n cyfryngau yn siŵr o amlygu unrhyw anghytundebau rhyngddo ef a’i frawd ac y byddai hynny’n tynnu’r sylw oddi ar waith yr wrthblaid.

Roedd David Miliband wedi bod ar y meiciau blaen ers 2002, blwyddyn ar ôl iddo gael ei ethol yn Aelod Seneddol ar South Shields yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr.

“Rydw i wir yn credu y galla’i wasanaethau Ed, y blaid, a’r wlad, yn well o safbwynt newydd,” meddai.

Roedd angen caniatáu i’w frawd arwain heb unrhyw beth i “dynnu ei sylw” oddi ar y gwaith o geisio ennill yr etholiad nesaf, meddai.

“Fe fydd o hefyd yn rhoi’r cyfle i mi feddwl ynglŷn â fy nghyfraniad at y dyfodol.”