Fe fydd S4C yn ail-ddechrau rhestru ugain uchaf rhaglenni Cymraeg, meddai llefarydd ar ran y sianel.

Yn ôl S4C, roedd yna broblemau wedi bod gyda phrosesu data gan y cwmni mesur BARB a doedd y ffigurau ddim wedi cael eu cyhoeddi ers y llynedd.

Bellach mae’r sianel yn dweud bod eu hadran ymchwil yn “hapus gyda’r dull o brosesu data ac wrthi’n diweddaru’r safle”.

“Mae’r ffigyrau bellach wedi eu diweddaru tan 15 Awst a disgwylir y bydd y wybodaeth yn gyfredol o fewn yr wythnosau nesaf,” meddai’r llefarydd.

Fe achosodd ffigyrau gwylio BARB ddadlau ym mis Mawrth wrth i bapur newydd y Western Mail honni eu bod nhw’n dangos bod bron i 200 o raglenni S4C dros gyfnod o dair wythnos wedi denu llai nag 1,000 o wylwyr.

Ond roedd y rhan fwyaf o’r rhaglenni rheini yn rai plant fel Sali Mali ac Igam Ogam, a dyw ffigyrau BARB ddim yn cyfri plant dan bedair oed, meddai’r sianel.