Mae hyfforddwr tîm saith bob ochr Cymru, Paul John, wedi dewis ei garfan ar gyfer Gêmau’r Gymanwlad yn Delhi.
Mae asgellwr ifanc Cymru, Tom Prydie, wedi cael ei gynnwys yn y garfan ynghyd â’i gyd chwaraewr gyda’r Gweilch, Kristian Phillips.
Chwaraewr rheng ôl Cross Keys, Jevon Groves, fydd capten y garfan sy’n cynnwys dau aelod o’r tîm a enillodd Gwpan y Byd yn 2009, sef Richie Pugh a Lee Williams o’r Scarlets.
Mae’r hyfforddwr wedi cynnwys y chwaraewyr saith bob ochr profiadol Ifan Evans ac Alex Cuthbert yn y garfan – mae’r ddau eisoes wedi chwarae ym mhob rownd o gyfres saith bob ochr y byd eleni.
‘Diolchgar’
“R’yn ni’n ddiolchgar iawn i’r clybiau a’r rhanbarthau am ryddhau’r chwaraewyr ar gyfer y cyfle gwych yma,” meddai Paul John.
“Mae’n hwb i gael enillwyr Cwpan y Byd, Richie Pugh a Lee Williams, yn ôl yn y garfan. Fe fydd eu profiadau’n allweddol ar gyfer twrnamaint cystadleuol iawn”
“Mae’n wych cael cynnwys Tom Prydie a Kristian Phillips hefyd. Er eu bod nhw’n ddibrofiad yn chwarae rygbi saith bob ochr, mae’r ddau wedi perfformio’n dda mewn cystadlaethau diweddar ac yn yr ymarferion.”
Bydd Cymru’n wynebu India, Tonga a De Affrica yn eu grŵp ac os byddan nhw’n mynd ymlaen i rownd yr wyth olaf, fe fyddan nhw’n wynebu’r tîm sy’n gorffen yn gyntaf neu’n ail o grŵp Seland Newydd, yr Alban, Canada neu Guyana.
Carfan Cymru
Jevon Groves (Cross Keys), Richie Pugh (Scarlets), Ifan Evans (Llanymddyfri), Rhys Shellard (Caerdydd), Aaron Shingler (Scarlets), Lee Rees (Scarlets), Lee Williams (Scarlets), Rhys Jones (Casnewydd), Gareth Davies (Caerdydd), Tom Prydie (Gweilch), Kristian Phillips (Gweilch), Alex Cuthbert (Gleision).
Llun: Tom Prydie, yn o chwaraewyr cyflym Cymru