Mae llefarydd ar ran y bwci oedd wedi gosod arwydd enfawr gyferbyn â’r Celtic Manor yn “siomedig” eu bod nhw wedi gorfod ei dynnu i lawr.

Roedd cwmni Paddy Power wedi gosod arwydd anferth yn y cae gyferbyn â’r gwesty fydd yn cynnal cystadleuaeth Cwpan Ryder eleni, meddai wrth Golwg 360.

Derbyniodd y bwci sydd â siopau ledled Prydain orchymyn llys heddiw yn dweud bod rhaid tynnu’r arwydd i lawr o fewn y deuddydd nesaf.

Fe fydd cystadleuaeth Cwpan Ryder yn dechrau dydd Gwener ac yn parhau am dridiau.

“Doedden ni ddim yn meddwl y byddai’n gymaint o broblem,” meddai llefarydd ar ran Paddy Power wrth Golwg360.
“Ond rydan ni wedi cael chwip din ac yn derbyn hynny.”

Arwydd o gefnogaeth – ‘mwy na Hollywood’

Dywedodd y llefarydd fod yr arwydd yn “fwy nag un Hollywood” ac mai dyma’r arwydd “mwyaf o’i fath yn y byd”.
Defnyddiodd y cwmni’r arwydd yng Ngŵyl Cheltenham, meddai.

“Y nod oedd dangos ein cefnogaeth i dîm Ewrop ac i’r Gwyddelod yn y gystadleuaeth,” meddai, cyn cyfaddef eu bod nhw eisiau sylw’r wasg hefyd.

“Dydi o ddim yn mynd ar ffordd neb – ychydig o hwyl oedd o,” dywedodd. Ond fe gawson nhw “sylw negyddol gan swyddogion Cwpan Ryder – er bod pobol ar y stryd yn meddwl bod o’n hwyl”.

“Dw i’n meddwl bod unrhyw beth sy’n tynnu sylw at ddechrau’r Gwpan yn beth da. Dydi o ddim yn effeithio’r golffwyr,” meddai.