Mae rhieni wedi beirniadu Cyngor Ceredigion am safon y dystiolaeth a gafodd ei hystyried wrth benderfynu cau ysgolion bach a chreu dwy ysgol 3-19 oed.

Roedd yr awdurdod wedi penderfynu ym mis Mehefin i fwrw ymlaen â sefydlu ysgol 3-19 oed yn ardaloedd Llandysul a Thregaron.

Roedd y penderfyniad hwnnw yn seiliedig ar adroddiad panel o dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Elystan Morgan.

Ond mae grŵp Achubwch Ysgolion Cynradd Ardal Llandysul wedi cael gweld dogfennau gan y cyngor sy’n dangos yr opsiynau a gafodd eu hystyried cyn y penderfyniad.

‘Arwynebol’

Maen nhw’n honni fod y dogfennau yn “arwynebol”, ac mai dim ond cadw’r sefyllfa bresennol, a’r opsiwn o sefydlu ysgol 3-19 a gafodd ystyriaeth fanwl.

Maen nhw’n awgrymu nad oedd dewisiadau eraill fel sefydlu system ffederal ar gyfer ysgolion cynradd ac uno ysgolion uwchradd, wedi eu hystyried bron o gwbwl.

Yn ôl Gethin Jones, un o rieni Ysgol Pont-siân, fe fydd y grŵp yn cyflwyno eu pryderon i Weinidog Addysg y Cynulliad.

Y cynllun

Yn ardal Llandysul byddai Ysgolion Uwchradd Dyffryn Teifi yn cau, yn ogystal ag ysgolion cynradd Llandysul, Coed-y-bryn, Aber-banc, Pont-siân a Chapel Cynon.

Yn ardal Tregaron byddai Ysgol Uwchradd Tregaron yn cau, yn ogystal ag Ysgolion Cynradd Tregaron, Llanddewi Brefi, Llangeitho, Bronant, Lledrod a Phenuwch.

Byddai’r ysgolion ‘syth trwodd’ 3-19 oed yn golygu bod yr holl ddisgyblion  ar yr un campws ond yn cynnwys adeiladau ar wahân ar gyfer y sectorau uwchradd a chynradd. Byddai un corff llywodraethol ar gyfer yr ysgolion cyfan.

Barn y rhieni

“Doedd faint o dystiolaeth oedd wedi ei ystyried heb wneud argraff arnon ni o gwbwl,” meddai Gethin Jones. “Roedd Cyfarwyddwr Addysg Ceredigion wedi honni yn gynharach eleni fod ganddo 15 bocs yn llawn tystiolaeth.

“Roedd yn syndod derbyn tua dwsin o dudalennau A4. Roedd y gwaith o asesu’r rhan fwyaf o’r opsiynau yn arwynebol iawn a dim ond y drefn bresennol a’r ysgol 3-19 oed oedd yn cael eu hystyried mewn unrhyw ddyfnder.”