Fe fydd hi’n “ddiwrnod hanesyddol” i fyfyrwyr Cymraeg Prifysgol Caerdydd yfory wrth iddyn nhw gael y cyfle i ymaelodi â Undeb Myfyrwyr Cymraeg.
Fe fydd aelodaeth i’r Undeb Myfyrwyr Cymraeg cyntaf yng Nghaerdydd yn “rhad ac am ddim” ar hyn o bryd, meddai Cadeirydd y pwyllgor sefydlu, Owain Lewis.
Mae Cymdeithas Gymraeg ‘Y Gym Gym’ eisoes yn bodoli ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Caerdydd – ond mae pwrpas y Gymdeithas yn wahanol, meddai’r Cadeirydd.
“Clwb cymdeithasol yw ‘Y Gym Gym’ – ond mae’r Undeb yn fudiad gwleidyddol,” meddai.
‘Cam Symbolaidd’
“Mae’n gam symbolaidd – dyw hyn ddim wedi digwydd yng Nghaerdydd o’r blaen. Does dim traddodiad Cymraeg yng Nghaerdydd fel sydd ym Mangor ac Aber er bod nifer o Gymry yma.
“Mae’n od nad yw wedi digwydd o’r blaen. Ond, rydw i’n falch ei fod o wedi cyrraedd nawr,” meddai.
Cam cynta’r undeb newydd fydd lobio er mwyn cael Swyddog Sabothol Cyflogedig ar gyfer materion Cymraeg fel sydd ym Mhrifysgol Bangor ac Aber.
Bydd hi’n bosibl ymaelodi yfory a dydd Gwener yn Ffair y Glas y Brifysgol rhwng 10am-5pm yn Neuadd Fawr yr Undeb.